Beth yw Ffocws ar Drafnidiaeth?
Ffocws ar Drafnidiaeth yw’r Corff Gwarchod annibynnol ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i fuddiannau defnyddwyr trafnidiaeth ac yn ceisio sicrhau’r fargen orau ar gyfer teithwyr a defnyddwyr ffyrdd.
Gyda phwyslais cryf ar ymgyrchu ac ymchwil ar sail tystiolaeth, rydym yn sicrhau ein bod yn gwybod beth sy’n digwydd ar lawr gwlad. Defnyddir y wybodaeth hon i ddylanwadu ar benderfyniadau ar ran teithwyr a defnyddwyr ffyrdd i sicrhau gwelliannau a gwneud gwahaniaeth.
Mae rhagor o wybodaeth ar y safle a chofiwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael y newyddion diweddaraf gyntaf!
What is Transport Focus?
Transport Focus is the independent watchdog for transport users. We put the interests of transport users first and aim to get the best deal for passengers and road users.
With a strong emphasis on evidence-based campaigning and research, we ensure that we know what is happening on the ground. This knowledge is used to influence decisions on behalf of passengers and road users to secure improvements and make a difference.
Find out more about us on the site, and make sure you sign up to our newsletter to get the latest news first!
Mae Ffocws ar Drafnidiaeth yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i hyrwyddo buddiannau pob defnyddiwr trafnidiaeth. Rydym yn aelodau o Fwrdd Goruchwylio Rheilffyrdd Cymru Network Rail, Panel Cynghori ar Drafnidiaeth Cymru a Transform Wales.
Rydym yn gweithredu fel ‘ffrind beirniadol’ i TrC a Network Rail, gan sicrhau bod profiadau a blaenoriaethau defnyddwyr wrth wraidd darpariaeth gwasanaethau.
Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i gynnwys teithwyr bws Cymru yn ein hymchwil sylweddol i fysiau, ac rydym yn mynd ati’n frwd i chwilio am gyfleoedd eraill i ddeall anghenion a phrofiadau ein holl ddefnyddwyr trafnidiaeth drwy ein rhaglen ymchwil eang.
Rydym yn cyflwyno tystiolaeth yn rheolaidd i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Senedd ac yn rhoi cyngor a safbwyntiau i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys ar drafnidiaeth yn ystod Covid-19. Rydym wedi helpu Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu strwythur ymgysylltu â rhanddeiliaid cadarn, wedi cyfrannu at lunio polisïau trafnidiaeth allweddol ac ar hyn o bryd rydym yn ymateb i Strategaeth Trafnidiaeth Cymru.
Transport Focus works with the Welsh Government and Transport for Wales to promote the interests of all transport users. We are members of Network Rail’s Wales Route Supervisory Board, Transport for Wales Advisory Panel and Transform Cymru.
We act as a ‘critical friend’ to TfW and Network Rail, making sure users’ experiences and priorities are at the heart of service delivery.
We have worked with partners to include Welsh bus passengers in our major bus research, and actively seek other opportunities to understand the needs and experiences of all transport users through our extensive programme of research.
We regularly give evidence to the Senedd Economy Infrastructure and Skills Committee. We provide advice and insight to Welsh Government including on transport during Covid-19. We’ve helped Transport for Wales develop a robust stakeholder engagement structure, provided input to key transport policies and are currently responding to the Wales Transport Strategy.
Transport Focus will host a public Board online meeting in Cardiff on Wednesday 23 November.
We’ll be discussing our latest work to help transport users in Wales and looking to understand what transport users want improved. Are they being supported? Are they happy with transport operators? If this matters to you, we want to hear from you!
Our chair, Nigel Stevens, will host the event from central Cardiff which will also be broadcast live on our Twitter page. David Beer, our senior manager in Wales, will also provide an overview of our work and latest insight.
Register here to watch the event online. Or if you want to attend in person, and meet our Board and senior team, contact Michelle.Roles@transportfocus.wales.
You can also submit a question to those speaking at the event by sending us an email: questions@transportfocus.org.uk.
Bydd Ffocws ar Drafnidiaeth yn cynnal cyfarfod ar-lein cyhoeddus o’i Fwrdd yn y brifddinas ddydd Mercher, 23 Tachwedd.
Byddwn yn trin a thrafod ein gwaith diweddaraf i helpu defnyddwyr trafnidiaeth yng Nghymru ac yn ceisio deall yr hyn yr hoffai defnyddwyr trafnidiaeth ei weld yn gwella. Ydyn nhw’n cael digon o gymorth? Ydyn nhw’n hapus gyda chwmnïau trafnidiaeth? Os yw hyn yn bwysig i chi, hoffem glywed gennych!
Bydd ein cadeirydd, Nigel Stevens, yn cynnal y digwyddiad o ganol Caerdydd a gaiff ei ddarlledu’n fyw ar ein tudalen Twitter. Bydd David Beer, uwch-reolwr Cymru, hefyd yn rhoi trosolwg o’n gwaith a’r manylion diweddaraf.
Cofrestrwch yma i wylio’r digwyddiad ar-lein. Neu, os hoffech fod yno’n bersonol, a chwrdd â’n Bwrdd a’n huwch dîm, cysylltwch â Michelle.Roles@transportfocus.wales.
Hefyd, mae croeso i chi anfon cwestiwn at y siaradwyr trwy e-bostio: questions@transportfocus.org.uk.
Ble i ddechrau? / Where to begin?
Know what you're looking for? Use the icons below. Or take our quiz to help point you in the right direction. Looking for the search tool? It's at the top right of the page.
Y diweddaraf / Latest updates
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr / Sign up for our newsletter
Derbyniwch y newyddion diweddaraf yn syth i’ch mewnflwch bob mis:
- ein buddugoliaethau ar ran defnyddwyr trafnidiaeth
- canlyniadau ein harolygon diweddaraf
- newyddion a digwyddiadau eraill.
Get the latest updates direct to your inbox every month:
- our wins on behalf of transport users
- latest survey results
- other news and events.
Transport User Team: Wales
During the pandemic, train operators made some cuts to services. When parents made us aware that this was impacting on students getting to college safely and on time, we stepped in to put pressure on Transport for Wales to review the timetable. As a result, it reinstated key services. It also added more carriages on busy trains, and additional replacement bus services, to support social distancing.